Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 30 Medi
2015
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3432
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 5 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 a 3 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd y 6 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.12
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5831 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r rhan bwysig y mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn ei chwarae mewn profiadau unigolion o wasanaethau cyhoeddus.
2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yn barhaus i ddarparu cymorth i awdurdodau lleol er mwyn atal cynnydd mewn biliau treth gyngor;
3. Yn nodi mai'r band treth gyngor D cyfartalog yng Nghymru ar gyfer 2015-16 yw £1,328 a bod teuluoedd ar eu colled o £546 yn ystod y pedwerydd Cynulliad o ganlyniad i'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod rhewi'r dreth gyngor;
4. Yn credu y bydd pobl yng Nghymru yn amau'r gwerth am arian a ddarperir gan lawer o wasanaethau awdurdodau lleol yn dilyn y cynnydd hwn yn y dreth gyngor; a
5. Yn credu
ymhellach bod angen gwneud mwy yng Nghymru i fanteisio ar y
rôl y gall mudiadau trydydd sector ei chwarae yn y broses o
ddarparu gwasanaethau lleol yn effeithiol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
38 |
49 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pob dim ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at y goblygiadau ar gyfer gwasanaethau awdurdodau lleol yn y dyfodol os bydd Llywodraeth y DU yn parhau i fynd ar drywydd polisïau llymder.
Yn credu y dylai
awdurdodau lleol a chymunedau gael y rhyddid i wneud eu
penderfyniadau eu hunain i godi cyllid, er mwyn amddiffyn
gwasanaethau a swyddi lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
11 |
49 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5831 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r rhan bwysig y mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn ei chwarae mewn profiadau unigolion o wasanaethau cyhoeddus.
2. Yn gresynu at y goblygiadau ar gyfer gwasanaethau awdurdodau lleol yn y dyfodol os bydd Llywodraeth y DU yn parhau i fynd ar drywydd polisïau llymder.
3. Yn credu y
dylai awdurdodau lleol a chymunedau gael y rhyddid i wneud eu
penderfyniadau eu hunain i godi cyllid, er mwyn amddiffyn
gwasanaethau a swyddi lleol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
11 |
49 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 16.06
NDM5828 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, 'Atal Recriwtio i'r Fyddin mewn Ysgolion' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2015.
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Medi 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.05
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5830 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi na chyrhaeddwyd y targedau ar gyfer amser atgyfeirio am driniaeth GIG Cymru ers 2010;
2. Yn gresynu at effaith andwyol bosibl amseroedd aros hir yn y GIG ar ganlyniadau cleifion a'u hansawdd bywyd; a
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i amlinellu cynllun ac amserlen ar gyfer cyrraedd
ei thargedau amser atgyfeirio am driniaeth.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
29 |
49 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod
pwysigrwydd sicrhau diagnosis cyflymach i leihau amseroedd
aros.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 3:
'a sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld mewn modd amserol drwy gydol eu gofal.'
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5830 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi na chyrhaeddwyd y targedau ar gyfer amser atgyfeirio am driniaeth GIG Cymru ers 2010;
2. Yn gresynu at effaith andwyol bosibl amseroedd aros hir yn y GIG ar ganlyniadau cleifion a'u hansawdd bywyd; a
3. Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau diagnosis cyflymach i leihau amseroedd aros.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i amlinellu cynllun ac amserlen ar gyfer cyrraedd
ei thargedau amser atgyfeirio am driniaeth a sicrhau bod cleifion
yn cael eu gweld mewn modd amserol drwy gydol eu gofal.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 18.02
Dechreuodd yr eitem am 18.06
NDM5829 Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Gofal lliniarol yng Nghymru: edrych y tu hwnt i 2016.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.36
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 6 Hydref 2015